Dafliad carreg oddi wrth bentrefi Llanrug a Bethel, ac yn swatio ynghudd o'r lôn, dyma fwthyn unigryw, llawn cymeriad ag iddo dair ystafell wely. Mae’r ty yn nythu mewn acer o erddi aeddfed sy’n gartref i adar a dyfrgwn ac sy’n cynnig sawl llecyn cudd i'w archwilio, pwll hwyiaid ac afon fyrlymus. Mae'r eiddo ei hun yn cynnwys cyntedd eang yn